Marwnad Madoc Benfras ac ef yn fyw
1 Rhidyll hvdolaidd rhydwnn
2 Rhyw fyd ar ei hyd yw hwnn
3 Y maccwy llawen heno
4 hyfryd ei fywyd a fo
5 Brevddwyd aruthr ebrwyddarw
6 A dry yfory yn farw
7 Pam i'm ken awen ewybr
8 Pefr orgraff olevbraff lwybr
9 Am fadog farddlef Efell
10 Benfras ni bv owdlwas well
11 Bv ddewr hyf ni bydd yrhawg
12 Ormeil mvdr wr mal madawg
13 O fedrv talm o fydroedd
14 O gerdd dda ac arwydd oedd
15 O ddwysgwbl gerdd o ddysgaid
16 O ddigrifwch fflwch a fflaid
17 O gariad yn anad neb
18 O ddoeth enw o ddoethineb
19 Dengyn ym mlwyddyn 'ymloedd
20 Dwyn madog dawn i'm ydoedd
21 [103r] Vthr yw gwayw athro gwyr
22 Disgybl or beirdd nid esgyr
23 Pell eglvr bennadvr bwyll
24 Pavn da ddadl pand oedd ddidwyll
25 Kad taradr keidwad tirion
26 Kannwyr y synwyr ar son
27 kwplws caniadcerdd ferddin
28 kapel porthloedd golygoedd gwin
29 A thampr o ddewis mis Mai
30 A thrwmpls y gerdd ai thrimplai
31 A chor y serch ai chariad
32 A choprys cerdd a chiprys cad
33 Pefr organ degan digeirdd
34 Pennaeth barddiniaeth y beirdd
37 Dihoywfro beirdd dihyfryd
38 Digywydd y bydd y byd
35 Diaml avr mâl nis talai
36 Di arddail fydd manddail Mai
39 Digerdd eos befrdlos bach
40 dwf acses deigr difocsach
41 [103v] Dibarch fydd bedw nis edwyn
42 Da beth oedd diobaith yn
43 cwpl ewythr capel awen
44 copr pawb wrthaw gwaglaw gwenn
45 gwladaiddoedd gwledydd eiddyw
46 O bai fyd na bai ef byw
47 Gwae feirddlv gwiw i farddoferlef
48 Gyda dvw y gadwyd ef
Da' ap Glm'